P-06-1262 Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau a wnaed ganddi cyn ac yn ystod y pandemig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anna-Louise Marsh-Rees, ar ôl casglu cyfanswm o 2,116 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Cafodd llawer o anwyliaid eu heintio â COVID-19 mewn ysbytai a chartrefi gofal yng Nghymru. Roedd cyfarpar diogelu personol yn brin, ni phrofwyd staff oni bai iddynt ddangos symptomau COVID, roedd y camau a gymerwyd i awyru ystafelloedd yn ddiffygiol, a rhoddwyd cleifion COVID ar wardiau nad oeddent wedi’u bwriadu ar eu cyfer. Anfonwyd llawer o gleifion adref heb iddynt gael eu hailbrofi; aethant ymlaen i ledaenu’r haint yn y gymuned cyn iddynt farw. Roedd hysbysiadau ‘na cheisier dadebru’ yn gysylltiedig â nifer o gleifion heb ymgynghoriad. Roedd cyfathrebu'n wael os oedd yn digwydd o gwbl. Yn bendant, ni ddysgwyd y gwersi perthnasol. Dylid craffu yng Nghymru ar y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru a effeithiodd ar bobl Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Fel y mae'r Prif Weinidog wedi nodi'n glir drwy gydol y pandemig, cafodd y penderfyniadau ar reolau COVID-19 yng Nghymru eu gwneud yng Nghymru. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn awyddus i dynnu sylw at wahaniaethau sy’n aml yn arwyddocaol rhwng y rheolau yng Nghymru a Lloegr.
Byddai cynnal ymchwiliad penodol i Gymru yn gyfle am adolygiad annibynnol i archwilio a ellid fod wedi atal marwolaethau yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn haeddu cael ei chraffu'n llawn - nid ei thrin fel troednodyn mewn ymchwiliad gan Lywodraeth y DU.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Mynwy
· Dwyrain De Cymru